Tudalen:Brithgofion.djvu/60

Gwirwyd y dudalen hon

arni na phan brynis i hi gynoch chi ddwy flynadd yn ol." Ac felly ymlaen am ysbaid, yn dal her ar ei gilydd. O'r diwedd, M," meddai'r porthmon gan daro ei goes â'i ffon a throi ymaith.

Neb yn gofyn pris y fuwch am awr wedyn, a'r ffermwr yn dechrau edrych yn ddigalon. Prisiau'n gostwng a'r galw yn llai nag oedd fis yn ôl. O'r diwedd, dôi'r porthmon heibio eilwaith. Edrychai ar y fuwch, codai ei ysgwyddau, a gofynnai yn sychlyd, "Faint erbyn hyn?" Daliai'r ffermwr at ei bris. Glaswenai'r porthmon, ond edrychai ar ei oriawr, heb feddwl bod y ffermwr yn deall peth felly mewn ffair yn burion. Dadl fach arall, heb fod lawn mor ffraeth â'r gyntaf. Yna cynigiai'r porthmon bris, gan edrych ar yr hen fodryb," cystal â chydnabod fod arno ei blys at ei bwrpas. Dôi'r ffermwr i lawr bunt neu ddwy. Dim llwyddiant. Ai'r porthmon ymaith eilwaith. Gadawai'r ffermwr y fuwch dan ofal y gwas bach a rhôi dro drwy'r ffair. Dôi yn ei ôl yn fwy digalon ei olwg nag o'r blaen. Aros tipyn wedyn. Yntau'n edrych ar ei oriawr. Rhaid i'r "hen fodryb" fynd i rywle neu adref cyn hir, yr oedd yn amlwg. Disgynnai llygad y porthmon arni am y trydydd tro. Byddai ei lais yn is dipyn.

"Hyn a hyn," meddai gan ddal ei law allan.

"A chweugen o rodd, ynta," meddai'r ffermwr yntau, â'i lais yn is.

"O'r gora," meddai'r porthmon, gan edrych ar ei oriawr eilwaith. Estynnai ei law allan. Estynnai'r ffermwr ei law yr un fath a thrawai law'r porthmon yn ffyrnig. Gwelais fwy nag un porthmon yn rhoi ysgytiad i'w law a'i rhoi yn ei logell ar ôl y cyfarchiad hwn â llaw haearn y ffermwr. Edrychai'r ffermwr ac yntau fel dau elyn, ond âi'r ddau gyda'i gilydd i'r dafarn nesaf, gan orchymyn i'r gwas bach fynd â'r fuwch i fuarth y dafarn rhag blaen. Ac felly ar ôl dwyawr neu dair o fargeinio y gwerthid yn "hen fodryb."

Byddai llawer o'r arferion cymdeithasol yn awgrymu hen draddodiadau Cymreig. "Diwrnod galw" fyddai'r dydd y dôi cymdogesau neu hen gyfoedion i edrych am fy mam, neu yr âi hi i edrych amdanynt hwy. Byddai te mewn hen "lestri c'heni," a gedwid yn ofalus mewn cwpwrdd cornel, ar y diwrnod hwnnw, llestri â llun