Tudalen:Brithgofion.djvu/62

Gwirwyd y dudalen hon

y Brython" (y gerddoriaeth, onid y geiriau hefyd, gan J. D. Jones, gŵr y bu fy nhad yn ei ysgol yn Rhuthin); un "dôn gron" nad cof gennyf mo'i henw; amryw hen geinciau Cymreig, a "Chân y Crud," ar eiriau gan "Llystyn," os wyf yn cofio'n iawn, cân a'm gyrrai i'n drist dros ben, pan genid am yr hen grud wedi ei adael o'r diwedd:—

"A mynd i ganol crwybyr cop
Mewn cell yn nhop y tŷ."

Ar gainc leddf "Toriad y Dydd," y cenid y gân, a byddai dagrau'n dyfod i'm llygaid er gwaethaf traddodiad pan glywn denor lleddf fy nhad yn canu'r geiriau uchod ar y nodau:—

Byddai canu "Cymru fy ngwlad" hefyd yn fy nhristâu dros fesur, pan feddyliwn am y Brythoniaid wedi colli'r gogoniant a fu... Byddai'n dda gennyf pan ddeuai tro un o gerddi digrif Talhaiarn i godi tipyn ar galon drist. hogyn bach, ac yr wyf heno â'm gwallt yn wyn, ar ôl gofyn iddynt roi taw (am byth, os mynnant) ar leisiau aflafar sentimentaliaid y radio, yn gwrando ar lais bas cadarn hen ŵr y drws cefn, cyfaill "pechaduriaid," a thenor hoyw fy nhad...

Byddai'r chwedlau gwlad, megis y rhai a adroddid am Siôn Swch, ffŵl a gedwid gan ryw hen ŵr bonheddig oedd yn byw rywdro heb fod ymhell o'r ardal, meddid, yn ddifyr odiaeth, ac yn dal yn eu blas er eu clywed lawer gwaith.

Nid wyf yn amau dim bellach nad darn o draddodiad. y "Noswaith Lawen" gynt oedd hwn, wedi aros ymhlith trigolion yr ardal gwbl Gymreig honno hyd chwarter olaf y ganrif ddiwethaf. Syndod a llawenydd gan y gymdeithas honno fyddai glywed fod eto "Nosweithiau llawen" bellach yng Ngarthewin eto.