Tudalen:Brithgofion.djvu/63

Gwirwyd y dudalen hon

IX.

GWEISION FFERMYDD.

Dosbarth diddorol iawn oedd y gweision, y soniwyd eisoes am rai o'u campau, digon diddorol, efallai, i sôn amdanynt ar eu pennau eu hunain yma. Caled oedd eu bywyd. Cysgent yn aml mewn llofftydd uwch ben yr ystablau, ac ni welid monynt yn y tai onid amser pryd bwyd. Mewn ambell fferm caent eistedd wrth dân y gegin neu'r gegin gefn yn yr hwyr, os mynnent, a phan fyddai un doniol, cymerai ran yn y difyrrwch hirnos. gaeaf-cant neu adrodd ystori neu ofyn dychmygion.

Ambell waith, dôi chwiw dros rai ohonynt i wneud castiau yn ystod y nos, pethau cymharol ddiniwed fel mynd i gnocio ar y merched gweini, a phethau eraill a ystyrrid yn waeth, megis clymu drysau'r tai oddiallan fel na ellid eu hagor oddimewn; codi llidiardau oddiar eu bachau a'u gadael i sefyll yn erbyn y pyst. Cofiaf am un hogyn bach a dorrodd ei fraich drwy i lidiart. felly syrthio odditano; gollwng anifeiliaid allan o gaeau, neu stwffio coflaid o wair i ambell gorn simnai. Byddent hefyd weithiau yn herw-hela ("portshio" fyddai'r gair cyffredin), a digwyddai ysgarmes rhyngddynt o dro i dro a'r ciperiaid. Adroddid am nifer a aeth ryw noswaith i hela, wedi duo'u hwynebau, neu wisgo mygydau. Gadawsant i'r cipar ddal un ohonynt, yna yn sydyn dyma eraill yn rhuthro at y ddau, yn dal y cipar drwy orthrech ac yn gwthio pawl hir a chryf drwy un llawes, ar draws ei gefn ac allan drwy'r llawes arall, a chlymu ei arddyrnau'n dyn â llinyn, fel na fedrai ei gael ei hun o'r ddalfa honno. Bu raid iddo fynd orau y gallai i chwilio am ryw gymorth a bu'r bechgyn dyfeisgar wrthi'n ddygyn cyn bod neb ar eu holau.

Ar droeon y digwyddai'r castiau gwaethaf, drwy ryw anfodlonrwydd naturiol ar oriau digysur yr hwyr, efallai, neu awydd i ddangos dirmyg at anystyriaeth ambell "hen gribin" gwaeth na'i gilydd, neu ryw fath o wrthryfel anfedrus yn erbyn gwendidau gwaethaf y drefn gymdeithasol a adawai un dosbarth ieuanc heb un