Tudalen:Brithgofion.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

ddarpariaeth ar gyfer rhywfaint o gysur, heb sôn am ddifyrrwch neu ddiddordeb gwedi oriau gwaith. Ond, at ei gilydd, syndod fel y gallai'r dosbarth digyfle hwn ddioddef pethau ac ymddwyn cystal ag y gwnaent. Byddai tafarnau i'w cael yn y pentrefi, wrth gwrs, ond ni byddai sôn am lawer o ofera ymhlith y dosbarth hwn, dim cymaint ag ymhlith crefftwyr a chwarelwyr. Bach oedd eu cyflog a hir eu horiau gwaith. Gallent ddarllen Cymraeg, diolch i'r Ysgol Sul, ond prin oedd llyfrau cymwys ar eu cyfer, neu le cymwys i'w darllen pe buasai rai. Cymerent ddiddordeb mawr yn eu gweddoedd—sonnid am rai fyddai'n torri twll drwy lawr llofft yr ŷd a dodi ynddo beg i'w dynnu a'i roi, er mwyn cael ceirch drwyddo o'r pentwr fyddai ar lawr y llofft i'w roi heb yn wybod i neb i'r ceffylau fyddai tan eu gofal. A phan fyddai "dangos neu ffair geffylau, neu ryw achlysur cyhoeddus, megis "trip Ysgol Sul," byddai addurno mawr ar y ceffylau. Cenglau'n disgleinio gan sêr o bres, mwng a chynffon wedi eu plethu a'u haddurno â rhubanau cochion, gwyrddion a melynion, a gwellt gwenith yn y clymau, yn fforchogi'n ysnodennau, ar ddelw gwreichion sêr. Ac yn amlach na pheidio, y gwas fyddai piau'r holl addurniadau. Rhan o'i grefft ef fyddai trwsio'r wedd, a byddai wrthi, hwyrach, trwy'r nos gyda'r gorchwyl hwnnw. A'r unig dál a gâi oedd bodloni ei elfen grefft. Swllt neu ddau ar dro, efallai, gan ambell feistr haelach na'i gilydd. 'Rwy'n cofio'r funud yma weld "trip Ysgol Sul" yn dychwelyd adref gyda'r nos. Gwagen yn llawn o ferched a phlant, yn eu dillad gorau. Merched bach mewn gwyn neu las gwan, ac ysnodennau o goch neu las ar lewys cwta, mynwes a het wellt. Bechgyn mewn brethyn cartref lliw cawn crin, a chapiau pig. Dau geffyl yn tynnu'r wagen, yn gloywi gan bres a rhubanau a'r gwas yn cerdded yn eu hochr, yn ei ddillad Sul; coler wedi ei sythu am ei wddf, ac arddyrnau ei "grys main " wedi eu sythu yr un modd ac yn cyrraedd at ei figyrnau. Chwip ag amgyrn pres am ei choes yn ei law. Golwg sobr arno, yn cerdded â'i ddwy fraich i lawr gyda'i ystlysau; a'i ben, pan drôi yn y goler newydd, yn troi'n ofalus iawn, am fod y goler yn crafu gwddw cynefin â symud yn rhydd.

Eto, fel dosbarth, byddai'r llanciau hyn dipyn yn falch,