Tudalen:Brithgofion.djvu/65

Gwirwyd y dudalen hon

yn eu gwisg orau. Dillad o frethyn cartref; het ffelt galed a phluen baun neu dair neu bedair o blu pioden y coed, wedi eu gosod yn ofalus ar un ochr i'r het. Os gwelid llanc yn gwisgo'i het braidd ar ochr ei ben, ystyrrid ei fod ef yn "un garw." Gwisgid coleri wedi eu sythu, yn gyffredin, a "c'hêt," oni byddai "crys main," gan y rhai balchaf, sef darn o liain wedi ei sythu i'w ddodi dros du blaen y crys, yn agorfa'r wasgod. Anaml y gwelid un yn gwisgo cuffs, ond cofiaf yn dda glywed un yn disgrifio un arall â chanddo rai.

"Coler hyd at 'i glustia," meddai, "fel na fedra fo droi'i ben mwy na llygoden mewn trap. Cyps yn cyrradd at 'i winadd. A hogla sment, ddigon i daro dyn i lawr ddecllath oddiwrtho."

Byddai "oel gwallt" yn dra chymeradwy ganddynt hefyd. Gwisgai rhai fodrwy arian am y bys bach, ac ystyrrid oriawr a chadwyn yn addurn mawr, a phin gadach ar lun pedol ceffyl yr un modd. Cyfrifid lwmp o oriawr, a elwid "llygad myharen," yn un dda iawn. Y tu mewn i wasg y llodryn y byddai poced yr oriawr mewn dillad gwaith, a byddai'r osgo wrth godi gwaelod y wasgod i fyny, gafael yn y gadwyn a thynnu'r oriawr allan, yn galw llawn cymaint o sylw ati ei hun â'r osgo heddiw, pan fo'r oriawr a wisgir ar yr arddwrn yn newydd iawn. Byddai cyllyll "Joseph Rogers" mewn bri mawr yn eu plith.

Byddai'r rhan fwyaf o'r bechgyn yn "iwsio baco." Cnoi "baco main" fyddai fwyaf cyffredin ym mysg y gweision, mygu pibellau yn amlach ymhlith y gweithwyr hŷn. "Cetyn" y gelwid pib fer; "pibell" oedd enw un hir, o glai. Byddai medru poeri dafn o sudd y tybaco. i ganol tân neu i lygad ci neu gath, o gryn bellter, yn arwydd o glyfrwch. Gwelech lanc yn sefyll ar ddiwrnod ffair go oer wrth gornel ystrŷd; coler ei gôt wedi ei chodi, ei ddwylo ym mhocedi ei lodryn; un goes yn syth a rhyw blygiad yn y llall; yntau'n cnoi baco ac yn edrych fel pe na buasai'n gweld dim. Dôi ci heibio ac edrych arno. Ni welech mo'r llanc yn gwneud dim, ond cyfarthai'r ci fel pe buasai rhywbeth wedi digwydd. Safai'r llanc yn gwbl lonydd, fel delw. Daliai'r ci i gyfarth. Yn sydyn, clywech wawch, gwelech y ci yn neidio i'r awyr ac yn rhedeg ymaith, gan sefyll yn awr ac eilwaith i geisio