tynnu rhywbeth o'i lygad drwy rwbio'i bawen yn ei erbyn. A daliai'r llanc i edrych fel sant o hyd.
Cerddi neu faledi fyddai llenyddiaeth y dosbarth. Siom fyddai dyfod adref o ffair heb gerdd newydd. Mewn twll ym mhared ystabl y cedwid y cerddi yn aml. Ambell un yn eu pwytho wrth ei gilydd yn ofalus, fel llyfr. Ymhlith y rhai mwyaf cymeradwy a gofiaf yr oedd cerdd "Y Blotyn Du," "Yr Eneth gadd ei gwrthod," "Hen Ffon fy Nain" a'r "Bwthyn Bach to gwellt." Anaml cael llanc na fedrai ganu'r rheiny.
Balchter mawr arall ymhlith y llanciau oedd aredig. Pan fyddai cae tirglas i'w drin, byddai raid bod pob cwys cyn unioned â'r saeth, heb fod ynddi na tholc na thoriad, a phe ceid carreg, a daflai'r aradr o'r gwys, byddai raid ei llusgo yn ei hôl, a thrwsio a llyfnhau'r balc â rhaw fechan a gedwid o bwrpas at hynny ar y tu mewn i'r ystyllen bridd. Byddai raid i'r gwys orwedd ar ei hochr yn gymwys, fel y gwelid y rhigol rhwng cŵys a chŵys o dalar i dalar yn un llinell gwbl union. Yr oedd drumio'r cefn, neu'r grwn, fel y byddai'n crymu'n grwn o rych i rych, yn gamp fawr. A phan fyddai'r cae wedi ei orffen, byddai golwg ardderchog arno. Llyfnid y cwbl cyn hir, a gwnaethai âr llai perffaith y tro lawn cystal, efallai. Ond pa waeth fod yr og yn fuan yn chwalu'r cwysau'n llwch? Crefftwr oedd yr arddwr, a'i fryd ef oedd bodloni nwyd y crefftwr am berffeithrwydd, pe llyfnid yr âr drannoeth.
Ceid yr un grefftwriaeth ymhlith y gweithwyr, rhai hŷn, wedi bod yn eu tro yn canlyn y wedd. Hwy fyddai'n torri gwrychoedd, yn cau a chloddio, ac yn toi teisi gwair ac ŷd. Byddai eu harfau, y "cryman cam," neu'r bilwg," a'u rhawiau—rhofiau, fel y seinid gan rai—cyn loywed â'r gwydr, yn enwedig pan fyddai gystadlu. Awch fel ellyn ar gryman a rhaw, at ddarn-dorri a phlygu cainc, ac at gael tyweirch i'w gosod ar ei gilydd yn y clawdd fel y byddai'r asiad rhwng dwy res yn gwbl union a chywir. Am gywirdeb llaw a llygad, ni welais odid ddim erioed a gurai waith yr hen gloddwyr hynny. Byddai gwneud tas o wair neu yd yn gryn gamp, a'i thaclu a'i thoi y gn gamp fwy byth. Os tas wair fyddai, rhaid ei "thynnu" i ddechrau, sef tynnu ei hochrau a'i thalcennau, fel y taflai dros ei throed, ac y byddai