"Wela," meddai, "Mae'r hen dai wedi mynd, fel yr oeddach chi'n deud. Mae'r tai yma sydd yn eu lle nhw yn llawer mwy, mae'n wir, ac yn llawer mwy rhodreslyd, ond 'does dim cymaint o le ynddyn nhw chwaith i'r trigolion, drwy'r flwyddyn, felly, ag oedd yn yr hen dai. Heddiw, mae'n nhw'n cysgu yn y gegin neu ar lawr, er mwyn gwneud lle i'r petha ha 'ma. Basa'n o chwith gan yr hen bobol feddwl am gysgu a bwyta ar yr un bwrdd. Ac am olwg y tai—wela, ond ydi'r rhein mor gynddeiriog o newydd, rywsut—maen' nhw fel pe baen' nhw'n rhegi'r wlad o'u cwmpas, ac yn rhoi ar ddallt i chi'i bod hi'n rhy wledig o'r hannar. A'r hen enwa, wedi mynd i gyd. Ac yn eu lle rhyw fastardiaid o enwa sy'n merwino clustia dyn, yn enwedig pan fo Cymry'n methu swnio un darn a Saeson yn methu swnio'r llall."
"Y mae hynny'n wir," meddwn, "ond y mae'r ystrydoedd yn lletach a llawer a'r tai yn edrych yn dda, a'r gerddi blodau yma o'u cwmpas."
"Ydyn," meddai, "'does dim yn erbyn y bloda a'r gerddi. Bydda yma erddi da gynt a'r rheiny wedi eu trin i ryw bwrpas, 'ran hynny. Mae strydoedd lletach a'r heiny wedi eu goleuo gyda'r nos, yn iawn, wrth reswm. Ydw i ddim yn erbyn cyfleustera rhesymol. Ond 'does yma mo'r gymdogaeth a'r wyllys da fydda yma gynt. Ar ôl petha felly y bydda i'n gweld collad. Rhyw le tros dro sydd yma 'rwan, nid cartra, rhyw betha estron, heb ddim gwreiddia yn y tir, heb fod yn tyfu o hanas y wlad. Pan oeddwn i'n ifanc, bydda pawb yn gymdogion yma, a chanddyn nhw draddodiada, fel yr oeddan nhw'n deall'i gilydd yn o lew. Erbyn hyn, dosbarthiada ydyn nhw, nid un bobol na chymdogion chwaith."
"Ydi hi wedi mynd felly yma?" meddwn.
"Wela," meddai'r hen ŵr, "mae'n debyg fy mod i'n hen ffasiwn, ond fydd pobol y tŷ nesa ddim yn siarad â chi fel cymdogion rwan, os na byddwch chi o'r un dosbarth â nhwytha. Hyd yn oed lle bôn' nhw o'r un genedl â'i gilydd, cyn bellad ag y gŵyr neb, fydd ganddyn nhw nemor i'w ddeud wrth'i gilydd os na byddan nhw o'r un dosbarth. Caech Sul tawal yma ers talwm, ond 'does wahaniaeth bellach rhwng y Sul a rhyw ddiwrnod arall. Synnwn i ddim na fydd gynnoch chi ryw frithgo am yr hwyl fydda ers talwm, pan fydda cymdogion yn mynd