Tudalen:Brithgofion.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

i helpio'i gilydd yn heidia, fel y dyla cymdogion fod yn barod i wneud bob amsar. Fyddan' nhw gynt ddim yn byw yn eu cregin fel malwod, fel yr ydan ni heddiw, nes yn bod ni wedi mynd heb ddim i'w ddeud wrth neb, fel pe baen' ni wedi sorri wrth bob dyn am byth. 'Does dim cymdeithas mewn peth felly, a 'does fodd i ddynion fyw yn debyg i ddim heb gymdeithas, na heb deimlo bod ganddyn nhw ryw ran yn y gymdeithas honno, a rhywbeth y dylan nhw fod yn barod bob amsar i'w wneud er ei mwyn hi hefyd. Fydd yr hyna fo ohonom ddim byw yn rhyw hir iawn ar y ddaear yma, ynghanol'i gyd-ddynion, ac os gneith o hynny heb ddim byd i'w glymu fo â'i dada, na dim i beri iddo fod yn un â'i gymdogion, pan fyddan nhw yn ddigri a difri, pan fydd hi'n dywydd teg arnyn nhw, a phan fydd hi'n ddrycin yn enwedig, fydd i'r dyn hwnnw fawr o siawns, hyd y medra i feddwl, am fyd ar ôl hwn â dim llun arno, beth bynnag."

Gwyddwn fy mod wedi bod yn gwrando ar ffilosoffi bywyd hen Gymro o'r cyfnod pryd yr oedd gennym ninnau, er gwaethaf ein rhaniadau, rywbeth a'n cadwai'n un bobl eto, heb ein diwreiddio. Ysgydwasom ddwylo a thynnais fy het iddo wrth gerdded ymaith, braidd yn drist, megis yr oedd yntau. Dacw fo yn mynd, yn tynnu ei het eto ac yn troi o'r golwg am gornel ystryd.

A euthum innau'n hen, finnau? ...