Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cadwgan i heddwch y brenin. Ac wedi heddychu rhyngddynt ymchwelodd y brenin i Loegr trwy addo deng mil of wartheg yn dreth ar Bowys. Ac felly y terfynodd y flwyddyn honno.

1120. Lladdodd Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Ruffydd fab Trahaearn.

1121. Bu farw Einion fab Cadwgan, y gwr a oedd yn cynnal rhan o Bowys a Meirionnydd, y wlad a ddygasai ef o gan Uchtryd fab Edwin; ac wrth ei angau a'i gymunrodd i Feredydd fab Bleddyn ei ewythr.

Ac yna gollyngwyd Ithel fab Rhirid o garchar Henri frenin. A phan ddaeth i geisio rhan o Bowys, ni chafas ddim. A phan gigleu Gruffydd ap Cynan wrthladd Meredydd fab Cynan o Feredydd fab Bleddyn ei ewythr, anfon a wnaeth Gadwaladr ac Owen ei feibion, a dirfawr lu ganddynt, hyd ym Meirionnydd. A dwyn a wnaethant holl ddynion y wlad ohoni, a'u holl dda gydag hwynt, hyd yn Lleyn. Ac oddyna cynnull llu a wnaethant ac arfaethu alldudio holl wlad Powys. Ac heb allu cyflewni eu harfeddyd, ymchwelasant drachefn. Ac yna ymarfolles Meredydd fab Bleddyn a meibion Cadwgan fab Bleddyn ynghyd, a diffeithiasant y