Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

wallon, fab Cadfan, brenin y Brytaniaid, yn Rhufain, y deuddegfed dydd o Fai, megis y proffwydasai Fyrddin cyn na hynny wrth Wrtheyrn Gwrtheneu. Ac o hynny allan y colles y Brytaniaid goron eu teyrnas, ac yr enillodd y Saeson hi.

Ac yn ol Cadwaladr y gwledychodd. Ifor, fab Alan frenin Llydaw, yr hon. a elwir Brytaen Fechan; ac nid megis brenin, namyn megis pennaeth neu dywysgog. A hwnnw a gynhelis lywodraeth ar y Brytaniaid wyth mlynedd a deugain; ac yna y bu farw.

Ac yna yn ol yntau y gwledychodd Rhodri Molwynog, Ac yn oes hwnnw y bu farwolaeth yn Iwerddon. Ac yna y crynodd y ddaear yn Llydaw. Ac yna y bu glaw gwaed yn Ynys Prydain ac Iwerddon. 690[1] oedd oed Crist yna. Ac yna y dymchwelodd y llaeth a'r ymenyn yn waed; a'r lleuad a ymchwelodd yn waedol liw.

700. Bu farw Elffryt, frenin y Saeson.

710. Bu farw Pipin Fwyaf, brenin. Ffreinc. Ac yna cyn oleued oedd y nos

  1. O hyn allan rhoir y blynyddoedd yn ffigyrau yn lle geiriau fel eu ceir yn Llyfr Coch Hergest.