oghau yn addfwyn, cyrchu a wnaeth yn wrol am ben cyfoeth Rosser iarll Clar, y gwr y lladdesid Einon fab Anarawd ei nai o'i achos, a thorri castell Aber Rheidol a chastell mab Wynion a'u llosgi; ac adoresgyn holl Geredigion, a mynych laddfau a llosgfâu ar y Fflemise, a dwyn mynych anrheithiau o ganddynt. Ac wedi hynny yr ymarfolles yr holl Gymry ar ymwrthladd a cheidwaid y Ffreinc, a hynny yn gyfun i gyd.
1164. Diffeithiodd Dafydd fab Owen Gwynedd Degeingl, a mudodd y dynion a'u hanifeiliaid gydag hwynt gydag ef hyd yn Nyffryn Clwyd. Ac wedi tebygu o'r brenin y byddai ymladd ar y castell a oedd yn Nhegeingl, cyffroi llu a orug drwy ddirfawr frys, a dyfod hyd yn Rhuddlan, a phabellu yno deirnos. Ac wedi hynny ymchwelyd i Loegr, a chynnull dirfawr lu gydag ef, a detholedigion ymladdwyr Lloegr a Normandi a Flandrys ac Angiw a Gwasgwin a holl Brydain, a dyfod hyd y Groes Oswallt, gan ddarparu alltudio a difetha yr holl Frytaniaid. Ac yn ei erbyn yntau y daeth Owen Gwynedd a Chadwaladr, feibion Gruffydd ab Cynan, a holl lu Gwynedd.