gyda hwynt; a'r arglwydd Rhys ab Gruffydd a'r holl Ddeheubarth gydag ef; ac Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch fab Meredydd a meibion Madog fab Meredydd a holl Bowys gydag hwynt; a deufab Madog fab Idnerth a'i holl gyfoeth gydag ef. Ac i gyd, yn gyfun ddiergrynedig, y daethant hyd yn Edeyrnion, a phabellu a wnaethant yng Nghorwen. Ac wedi trigo yn hir yn eu pabellau yno, heb. arfeiddio o un gyrchu at eu gilydd i ymladd, lidio a orug y brenin yn ddirfawr, a chyffroi ei lu hyd yng nghoed Dyffryn. Ceiriog, a pheri torri y coed, a'u bwrw i'r llawr. Ac yno yr ymerbyniodd ag ef yn wrol ychydig o Gymry etholedigion, y rhai ni wyddynt oddef eu gorfod yn absent eu tywysogion. A llawer o'r rhai cadarnaf a ddigwyddodd o bob tu. Ac yno y pabellodd y brenin, a'r byddinoedd gydag of. Ac wedi trigo yno ychydig o ddyddiau y cyfarsangwyd ef o ddirfawr dym- hest awyr, a thra llifeiriant glawogydd. Ac wedi pallu ymborth iddo yr ymchwelodd ei bebyll a'i lu i faestir Lloegr. Ac yn gyflawn o ddirfawr lid, peris ddallu y gwystlon a fuasai yng ngharchar ganddo, er ystalm o amser cyn na hynny, nid
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/141
Prawfddarllenwyd y dudalen hon