nill y castell ei dorri a wnaethant, a'i losgi, a lladd yr holl gastellwyr.
Yn niwedd y flwyddyn honno y cyrchodd Owen a Chadwaladr, tywysogion. Gwynedd, a'r Arglwydd Rhys tywysog o Ddebeubarth, a'u lluoedd gydag hwynt, am ben castell Rhuddlan yu Nhegeingl, ac eistedd wrtho drimis a orugant. Ac wedi hynny cael y castell a'i losgi, a chastell arall gydag ef, er moliant i Gymry,—yn hyfryd fuddugol pawb i'w gwlad.
1167. Llas Gwrgeneu abad a Llawdden ei nai gan Gynan ac Owen
1168. Rhyddhawyd Robert fab Ysteffyn o garchar yr Arglwydd Rhys ei gyfaill, a dug Diermid fab Mwrchath ef hyd yn Iwerddon gydag ef. Ac i'r tir y doethant i Lwch Garmon, ac ennill y castell a wnaethant.
1169. Llas Meirig fab Adam drwy dwyll yn ei gwsg gan Feredydd Bengoch ei gefnder. Yn niwedd y flwyddyn honno bu farw Owen Gwynedd fab Gruffydd ab Cynan, tywysog Gwynedd, gwr dirfawr ei foliant ac anfeidrol ei brudd-der a'i fonedd a'i gadernid a'i ddewredd yng Nghymru, wedi aneirif fuddugoliaethau, heb omedd neb erioed o'r arch a geisiai,