Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwin, a iarll Flanders, a llawer o rai ereill, pan wnaeth gymod â'r archesgob hyd. na wnai argywedd iddo byth. Ac wedi clywed o Alexander bab ladd yr archesgob, anfon llythyrau at frenin Ffrainc a wnaeth, ac at y meichiau ereill, a gorchymyn iddynt drwy esgymundod gymell brenin Lloegr i ddyfod i lys Rhufain i wneuthur iawn am angau yr archesgob. Ac wrth hynny anesmwytho a wnaethant o bob arfaeth ar ei dremygu ef. A phan welas Henri frenin hynny, dechreu gwadu a orug hyd nad o'i gyngor el y llas yr archesgob, ac anfon cenhadau a wnaeth at y pab i fynegi na allai et fyned i Rufain drwy yr achosion hynny. Yng nghyfrwng hynny y ciliodd rhan fawr o'r flwyddyn.

A thra yr oeddid yn hynny tu draw i'r môr cynhullodd yr Arglwydd Rhys fab Gruffydd lu am ben Owen Cyfeiliog oi ddaw, ar fedr ei ddarostwng Canys y gynifer gwaith y gallai Owen wrthwynebu yr Arglwydd Rhys y gwrthwynebai. A Rhys a'i cymhellodd i ddarostwng iddo, a chymerth saith wystyl ganddo.

Ynghyfrwng hynny ofni a wnaeth y brenin yr apostolawl esgymundod, a gado gwledydd Ffrainc, dychwelyd i Loegr, a