a ddistrywiasai cyn na hynny, pan ei dug oddiar iarll Clâr, ac y dileodd Robert, fab Ysteffyn o Nest a oedd fodryb i Rys, a Robert yn gefnder iddo. A brodyr Robert oedd Dafydd esgob Mynyw a Gwilim Bastard. Meibion oedd y rhai hynny i Erald Ystiward. Ac yna daeth Rhys o gastell Aberteifi hyd yng nghastell Penfro, i ymddiddan â'r brenin, y deuddegfed dydd of galan Hydref, a duw Sadwrn oedd y dydd hwnnw. Ac erchis Rhys gynnull y meirch oll, a addawsai i'r brenin, i Aber Teifi, fel y beunt barod wrth eu hanfon i'r brenin, A thrannoeth, duw-Sul, yr ymchweles Rhys, ac ethol a wnaeth chwe meirch a phedwar ugain, wrth eu hanfon drannoeth i'r brenin. Ac wedi dyfod hyd y Ty Gwyn, clybod a wnaeth fyned y brenin i Fynyw, i bererinio, ac offrwm a wnaeth y brenin ym Mynyw ddau gapan côr, ar fedr cantoriaid i wasanaethu Duw. Ac offrwm hefyd a wnaeth ddeg swllt. Ac. erfyn a orug Dafydd fab Gerallt, y gŵr a oedd yn esgob ym Mynyw yna, i'r brenin fwyta gydag ef y dydd hwnnw. gwrthod y gwahodd a orug y brenin, of achos gweglyd gormod traul i'r esgob. Dyfod eisoes a orug ef a'r esgob a thri
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/148
Prawfddarllenwyd y dudalen hon