Ac wedi dyfod gwyl Galixtus bab, erchi a wnaeth y brenin gyrru y llongau o'r borthfa i'r môr. A'r dydd hwnnw esgyn y llongau a orugant. Ac eto nid oedd gymwynasgar y gwynt iddynt, Ac achos hynny, ymchwelyd a wnaeth drachefn i'r tir, ac ychydig o nifer gydag ef. A'r nos gyntaf wedi hynny yr esgynnodd y llongau, gan hwylio o hono ef ei hun ac o bawh o'i wyr. A thrannoeth, duw-Sul oedd, yr unfed dydd ar bymtheg o galan Rhagfyr, drwy hyfryd awel wynt, y dyblygodd ei longau i dir Iwerddon.
1172. Bu dirfawr farwolaeth ar y llu oedd gyda'r brenin yn Iwerddon, oherwydd newydd-der y diargrynedigion winoedd ac o achos cyfynder o newyn, am na allai y llongau a newidiau ynddynt fordwyo atynt y gaeaf, drwy dymhestlog gynddaredd Mor Iwerddon.
Bu farw Cadwaladr ab Gruffydd ab Cynan fis Mawrth.
Ymchwelodd brenin Lloegr o Iwerddon, gan adaw yno farwniaid a marchogion urddolion drosto, oherwydd y cenhadau a ddaeth ato gan y pab a Lowys frenin Ffrainc. A duw-Gwener y Groglith doeth hyd ym Mhenfro, ac yno y trigodd