y Pasg hwnnw; a duw-Llun Pasg ymddiddanodd â Rhys yn Nhalacharn ar y ffordd. Ac oddiyno aeth i Loegr. Ac wedi myned y brenin o Gaer Dyf hyd y Castell Newydd ar Wysg, anfon a wnaeth i orchi i Iorwerth fab Owen ddyfod i ymweled ag ef, ac i ymddiddan am heddwch. A rhoddi cadarn gyngrhair a orug iddo ac i'w feibion. A phan oedd Owen fab Iorwerth, gwr ieuanc grymus hygar, yn parotoi, o gyngor ei dad a'i wyrda, i fyned gyda'i dad i lys y brenin, y cyfarfu wyr iarll Bryste ag ef ar y ffordd yn dyfod o Gaer Dyf, ac ei lladdasant. Ac wedi ei ladd ef, yna y diffeithiodd ei dad a Hywel ei frawd a llawer o rai ereill, heb ymddiried o'r achos hwnnw i'r brenin o neb un modd, gyfoeth y brenin hyd yn flenffordd a Chaer Loew, drwy ladd a llosgi ac anrheithio heb drugaredd.
Ac yna, heb odrig, y daeth y brenin i
Ffrainc, wedi gosod yr Arglwydd Rhys
yn ustus yr holl Ddeheubarth.
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF),
SWYDDFA "CYMRU,"