820. Distrywiwyd castell Deganwy gan y Saeson. Ac yna dwg y Saeson frenhiniaeth Powys yn eu meddiant A bu farw Hywel.
830 Bu diffyg ar y lleuad yr wythfed. dydd o fis Rhagfyr. A bu farw Satubin, esgob Mynyw.
810. Gwledychodd Meurig esgob ym Mynyw. A bu farw Idwallon. A bu gwaith Cetyll. A bu farw Merfyn. A bu waith Ffinant. A llas Ithel, brenin Gwent, gan wyr Brycheiniog.
850. Llas Meurig gan y Saeson, a thagwyd Cyngen gan y cenhedloedd, a diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon. A bu farw Cyngen, brenin Powys, yn Rhufain. A bu farw Ionathal, tywysog Abergele.
860. Gyrrwyd Cadweitheu ymaith. A bu farw Cynan Fant Nifer. A diffaethiwyd Caer Efrog yng nghad Dubcynt.
870. Bu cad Cryn Onnen, a thorred. Caer Alclud gan y paganiaid. A boddes Gwgawn, fab Meurig, brenin Ceredigion. A bu waith Bangolau, a gwaith Menegyd ym Mon. A bu farw Meurig, esgob bonheddig a chymerth Lwmbert esgobaeth Fynyw. A boddes Dwrngarth frenin