Cernyw. A bu waith duwSul ym Mon; a llas Rhodri a Gwriad ei frawd gan y Saeson. A bu farw Aedd fab Mellt.
880. Bu waith Conwy, i ddial Rhodri o Dduw.
890. Bu farw Subni, y doethaf o'r Ysgotiaid. Ac yna daeth y Normaniaid duon eilwaith i Gastell Baldwin. A bu farw Heinuth fab Bledri. Ac yna daeth Anarawd i ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. Ac yna diffeithiodd y Normaniaid Loegr, a Brycheiniog, a Morgannwg, a Gwent, a Buallt a Gwynllwg. Ac yna diffygiodd bwyd yn Iwerddon; canys pryfed o nef a ddigwyddodd, ar waith gwadd, a deu-ddant bob un, a'r rhai hynny a fwytaodd yr holl ymborth, a thrwy ympryd a gweddi y gwrthladdwyd. Ac yna bu farw Elstan frenin, ac Alfred frenin Iwys.
900. Daeth Igmwnd i Ynys Fon, a chynhaliodd faes Rhos Meilon. Ac yna llas mab Merfyn gan y genedl, a bu farw Llywarth fab Hennyth, a llas pen Rhydderch fab Hennyth dduw-gwyl Bawl. A bu waith Dineirth, yn yr hwn y las Maelog Cam fab Peredur. Ac yna dilewyd Mynyw. A bu farw Gorchwyl esgob;