trad Clwyd a ddiffeithiwyd gan y Saeson, A Hywel Dda fab Cadell frenin, pen a moliant yr holl Frytaniaid, a fu farw. A Chadwgan fab Owen a las gan y Saeson. Ac yna bu waith Carno, rhwng meibion Hywel a meibion Idwal.
950. Diffeithiodd Iago a Ieuaf, meibion Idwal, Ddyfed ddwy waith. Ac yna bu farw Dyfnwal a Rhodri, meibion Hywel. Ac yna bu lladdfa fawr rhwng meibion Idwal a meibion Hywel yng ngwaith Llanrwst. A llas Hir Mawr ac Anarawd gan y bobloedd; meibion oedd y rhai hynny i Wriad. Ac wedi hynny. diffeithiwyd Ceredigion gan feibion Idwal. A bu farw Edwyn fab Hywel, a boddes Haeardwr fab Merfyn. A las Congalch brenin Iwerddon, a Gwgawn fab Gwriad. A bu yr haf tesog. A bu dirfawr eira fis Mawrth, a meibion Idwal yn gwledychu. A diffeithiodd meibion Abloce Gaer Gybi a Lleyn.
960. Llas Idwal fab Rhodri. A llas meibion Gwynn. A diffeithiwyd y Tywyn gan y bobloedd. A bu farw Meurig fab Cadfan, a Rhydderch esgob, a Chadwallon fab Owen. Ac yna diffeithiodd y Saeson, ac Alfryd yn dywysog iddynt, frenhin-