Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

980. Diffeithiodd Gotbric fab Harold Ddyfed a Mynyw. A bu waith Llanwenog. Ac yna diffeithwyd Brycheiniog a holl gyfoeth Einon fab Owen gan y Saeson, ac Alfryd yn dywysog arnynt. A Hywel fab Ieuaf ac Einon a laddodd lawer o'i lu. Ac yna llas Einion fab Owen drwy dwyll gan uchelwyr Gwent. A bu farw bonheddig esgob. A lladdodd y Saeson Hywel fab Ieuaf drwy dwyll. A llas Ionafal fab Meurig, a Chadwallon fab Ieuaf a'i lladdodd. Cadwallon fab Ieuaf drwy fuddugoliaeth a oresgynnwys ei gyfoeth, nid amgen nag ynys Fon, a Meirionnydd a holl wladoedd Gwynedd o ddirfawr ystryw a challter a ddarestyngodd. Ac yna ysbeiliwyd Llywarch ab Owen o'i lygaid. A diffeithiodd Gotbric fab Harold, a'r llu du ganddo, ynys Fon. A dallwyd dwy fil o ddynion, a'r dryll arall onaddunt. a ddug Meredydd fab Owen gyd ag ef i Geredigion a Dyfed. Ac yna bu farwolaeth ar yr holl anifeiliaid yn holl ynys. Prydain. Ac yna bu farw Ieuaf fab Idwal, ac Owen fab Hywel. A diffeithiodd y cenhedloedd Lanbadarn a Mynyw a Llanilltyd a Llanforgan a Llandudoch. Ac yna llas mab Abloce. A thalodd Mer-