edydd, yn deyrnged i'r cenhedloedd duon, geiniog o bob dyn. A bu dirfawr farwolaeth ar y dynion rhag newyn. Llas Owen fab Dyfnwal. Diffeithiodd Meredydd Faesyfed.
990. Diffeithiodd Edwin fab Einon ac Eclis fawr, tywysog y Seis oddiar foroedd y dehau, holl frenhiniaethau Meredydd, nid angeu Dyfed, a Cheredigion, a Gwyr, a Chylweli; ac eilwaith cymnerth wystlon o'r holl gyfoeth: a'r drydedd waith diffeithiodd Fynyw. A Meredydd a huriodd y cenhedloedd a ddaethant yn eu hewyllys gydag ef, a diffeithiodd wlad Forgan; a Chadwallon ei fab a fu farw. Yna dwg meibion Meurig gyrch byd yng Ngwynedd, a diffeithiwyd ynys Fon gan y cenhedloedd dduw-Iau Dyrchafael. Yna bu dirfawr newyn yng nghyfoeth Meredydd. A bu frwydr rhwng meibion Meurig a Meredydd yn ymyl Llangwm, a gorfu feibion Meurig: ac yno llas Tewdwr fab Einon. Ac yna diffeithiwyd Manaw gan Yswein fab Harold. A llas Idwal fab Meurig. A diffeithiwyd Arthmarcha. A llosged a dibobled Mynyw gan y cenhedloedd; a llas Morgeneu esgob ganddynt. A bu farw Meredydd fab Owen, y clodforusaf frenin y Brytaniaid.