Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adog fab Rhydderch a las gan y Saeson. Ac yna bu farw Cnut fab Yswein, frenin Lloegr a Denmarc a Germania; ac wedi ei farw ef y ffoes Eilaf hyd yn Germania. Ac yna delis y cenhedloedd Feurig fab Hywel, a llas lago frenin Gwynedd; ac yn ei le yntau gwledychodd Gruffydd fab Llywelyn ab Seisyll, a hwnnw, o'i ddechreu hyd y diwedd, a ymlidiodd y Saeson a'r cenhedloedd ereill, ac a'u lladdodd, ac a'u difaodd, ac o luosogrwydd o ymladdau a'u gorfu. Y frwydyr gyntaf a wnaeth yn Rhyd y Groes ar Hafren, ac yno y gorfu ef. Y flwyddyn honno y dibobles ef Lanbadarn, ac y cynhelis ef lywodraeth Deheubarth, ac y gwrthladdodd Hywel fab Edwin o'i gyfoeth. Ac yna bu farw Henrim, esgob Mynyw. Ac yna bu waith Pencader, a gorfu Ruffydd ar Hywel, a delis ei wraig, ac-a'i cymerth yn wraig iddo ei hun.

1040. Bu frwydr Pwll Dyfach, ac yno y gorfu Hywel y cenhedloedd a oeddynt yn diffeithio Dyfed. Yn y flwyddyn delit Gruffydd gan genhedloedd Dulyn. Ac yna bu farw Hywel fab Edwin, brenin gwlad Forgan, yn ei henaint. Ac yna meddyliodd Hywel fab Edwin ddiffeithio