Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Deheubarth, a llynges o genedl Iwerddon gydag ef, ac yn ei erbyn y gwrthwynebodd iddo Ruffydd ab Llywelyn. Ac wedi bod creulawn frwydr a dirfawr aerfa ar lu Hywel a'r Gwyddyl yn Aber Tywi, y digwyddodd Hywel ac y llas; ac yna gorfu Ruffydd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Teilo, yn Rhufain. A bu dirfawr dwyll gan Ruffydd a Rhys, meibion Rhydderch, yn erbyn Gruffydd fab Llywelyn. Ac yna digwyddodd amgylch saith ugeinwyr o deulu Gruffydd, drwy dwyll gwyr Ystrad Tywi, ac i ddial y rhai hynny y diffeithiodd Gruffydd Ystrad Tywi a Dyfed. Ac yna bu dirfawr eira duw-Calan Ionawr, a thrigodd hyd wyl Badrig. A bu ddiffaith holl Ddeheubarth.

1050. Pallodd llynges o Iwerddon yn dyfod i Ddeheubarth. Ac yna lladdodd Gruffydd fab Llywelyn Ruffydd fab Rhydderch. Ac wedi hynny cyffroes Gruffydd ab Llywelyn lu yn erbyn y Saeson, a chyweirio byddinoedd yn Henffordd; ac yn ei erbyn cyfodes y Saeson, a dirfawr lu ganddynt, a Rheinwlff yn dywysog arnynt: ac ymgyfarfod a orugant, a chyweirio byddinoedd, ac ymbarotoi i ymladd; a'u