Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyrchu a wnaeth Gruffydd yn ddiannod, a byddinoedd cyweir ganddo; ac wedi bod brwydyr chwerwdost, a'r Saeson heb allel goddef cynnwrf y Brytnaiaid, a ymchwelasant ar ffo, ac o ddirfawr laddfa y digwyddasant. A'u ymlid yn lud a wnaeth Gruffydd i'r gaer, ac i mewn y doeth, a dibobli y gaer a wnaeth, thorri, a llosgi y dref; ac oddyna, gyda dirfawr anrhaith ac ysbail, ymchwelodd i'w wlad yn hyfryd fuddugol. Ac yna daeth Magnus fab Harold, brenin Germania, i Loegr, a diffeithiodd frenhiniaethau y Saeson, a Gruffydd frenin y Brytaniaid yn dywysog ac yn gynhorthwy iddo. Ac yna bu farw Owen fab Gruffydd.

1060. Digwyddodd Gruffydd fab Llywelyn, pen a tharian ac amddiffynnwr y Brytaninid, drwy dwyll ei wyr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn na hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnau difeithion, wedi dirfawrion anrheithiau, a difesuredigion fuddugolaethau, ac aneirif oludoedd aur ac ariant a gemau a phorfforolion wisgoedd. Ac yna bu farw Ioseff, esgob Mynyw. A bu farw Dwnchath fab Brian yn myned i Rufain. Ac yna medd-