Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yliodd Harold frenin Denmarc ddarostwng y Saeson; yr hwn a gymerth Harold arall, fab Godwin iarll, iarll a oedd frenin yna yn Lloegr, yn ddirybudd ddiarf, ac o ddisyfyd ymladd drwy wladol dwyll a'i trewis i'r llawr oni fu farw. A'r Harold hwnnw, a fuasai iarll yn gyntaf, trwy greulonder wedi marw Edward frenin a enillodd yn anyledus uchelder teyrnas Lloeger. A hwnnw a ysbeiliwyd o'i deyrnas a'i fywyd gan Wilym bastard, tywysog Normandi, cyd bocsachai a'r fuddugoliaeth cyn na hynny. A'r Gwilym hwnnw, drwy ddirfawr frwydyr, a amddiffynnodd deyrnas Loeger o anorchfygedie law a'i fonheddicaf lu. Ac yna bu waith Mechen, rhwng Bleddyn a Rhiwallon feibion Cynfyn, a Meredydd ac Ithel feibion Gruffydd. Ac yna digwyddodd meibion Gruffydd; Ithel a las yn y frwydyr, a Meredydd a fu farw o annwyd yn ffo. Ac yno llas Rhiwallon fab Cynfyn. Ac yna cynhelis Bleddyn fab Cynfyn Gwynedd a Phowys, a Meredydd fab Owen fab Edwin a gyuhelis Ddeheubarth.

1070. Llas Meredydd fab Owen gan Garadog fab Gruffydd fab Rhydderch o'r