Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caradog gyda'r rhai hynny hefyd. Yn y flwyddyn honno y bu brwydr Bron yr Erw, rhwng Gruffydd a Thrahaearn. Ac yna llas Rhydderch fab Caradog gan Feirchion fab Rhys fab Rhydderch ei gefnder drwy dwyll. Ac yna bu frwydr Gwenotyll rhwng meibion Cadwgan a Rhys fab Owen a Rhydderch fab Caradog, y rhai a orfuant eilwaith. Ac yna bu frwydyr Pwll Gwdyg, ac yna gorfu Trahaearn, brenin Gwynedd, a dialodd waed Bleddyn fab Cynfyn drwy rad Duw, yr hwn a fu waraf a thrugarocaf o'r brenhinoedd: ac nid argyweddai i neb oni chodid; a phan godid, o'i anfodd y dialai yntau ei godiant; gwâr oedd wrth ei geraint, ac amddiffynnwr amddifaid a gweinion a gweddwon, a chadernid y doeth, ac anrhydedd a grwndwal yr eglwysau, a diddanwch y gwladoedd, a hael wrth bawb; aruthr yn rhyfel a hygar ar heddwch, ac amddiffyn i bawb. Ac yna y digwyddodd holl deulu Rhys, ac yntau yn ffoadur, megis carw of nog ymlaen y milgwn drwy y perthi a'r creigiau. Ac yn niwedd y Awyddyn llas Rhys ap Hywel ei frawd gan Garadog ab Gruffydd. Ac yna gedewis

Sulien ei esgobawd, ac y cymerth Abraham.