Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna dechreuodd Rhys ab Tewdwr wledychu. A diffeithiwyd Mynyw yn druan gan y cenhedloedd, a bu farw Abraham esgob Mynyw, a chymerth Sulien yr esgobawd eilwaith. Ac yna bu frwydr ym Mynydd Carn, ac yna llas Trahaearn fab Caradog fab Gruffydd wyr Iago, a'r Ysgotiaid gydag ef yn gynhorthwy iddo. A llas Gwrgeneu fab Seisyll drwy dwyll gan feibion Rhys Sais. Ac yna daeth Gwilym bastard, brenin y Saeson a'r Ffreinc a'r Brytaniaid, wrth weddio, drwy bererindod i Fynyw.