Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

ii.
Y Barwniaid Normanaidd.

[Marw William I. a Rhys ab Tewdwr. Ymdrech rhwng y barwniaid Normanaidd oedd yn ceisio ennill tir yng Nghymru, y tywysogion Cymreig oedd yn amddiffyn eu gwlad ac yn ymladd â'u gilydd, a brenin Lloegr oedd yn coisio estyn ei deyrnwialen dros dywysog a barwn. Prin y daw Gruffydd ab Cynan i'r golwg, meibion Bleddyn ab Cynfyn wibia o'n blaenau yn y bennod hon. Ymadawiad Robert Belesmo a dyfodiad y Fflandrwys.]

1080. Gedewis Sulien ei esgobawd y drydedd waith, a chymerodd Wilffre hi. Ac yna bu farw Gwilym fastard, tywysog y Normaniaid a brenin y Saeson a'r Brytaniaid a'r Albanwyr, wedi digon o ogoniant a chlod y llithredig fyd yma, ac gogoneddusion fuddugoliaethau ac rhydedd o oludoedd; ac wedi ef y gwledychodd Gwilym Goch ei fab. Ac yna gwrthladdwyd Rhys fab Tewdwr o'i gyfoeth a'i deyrnas gan feibion Bleddyn fab Cynfyn, nid amgen Madog a Chadwgan a Rhirid; ac yntau a giliodd i Iwerddon. Ac yn y lle wedi hynny cynhullodd lynges ac ymchwelodd drachefn.