Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna bu frwydyr Llych Crei, a llas meibion Bleddyn, a rhoddes Rhys ab Tewdwr ddirfawr swllt i'r llyngheswyr, Ysgotiaid a Gwyddyl, a ddaethent yn borth iddo. Ac yna dygpwyd ysgrin Dewi yn lladrad o'r eglwys, ac ysbeiliwyd yn llwyr yn ymyl y ddinas. Ac yna crynodd y ddaear yn ddirfawr yn holl ynys Brydain. Ac yna bu farw Sulien esgob Mynyw, y doethaf o'r Brytaniaid, ac ardderchog o grefyddus fuchedd, wedi clodforusaf ddysgeidiaeth ei ddisgyblion a chraffaf ddysg ei blwyfau, y pedwar ugeinfed flwyddyn o'i oes, a'r unfed eisieu o ugain o'i gysegredigaeth nos galan Ionawr. Ac yna torred Mynyw gan genedl yr ynysedd. A bu farw Cadifor fab Collwyn. A Llywelyn a'i fab a'i frodyr a wahawddasant Ruffydd fab Meredydd, ac yn ei erbyn yr ymladdodd Rhys ab Tewdwr ac a'i gyrrodd ar ffo, ac yn y diwedd ei lladdodd.

1090. Llas Rhys ab Tewdwr, brenin Deheubarth, gan y Ffreinc a oedd yn preswylio Brycheiniog. Ac yna digwyddodd teyrnas y Brytaniaid. Ac yna ysbeiliodd Cadwgan fab Bleddyn Ddyfed yr eilddydd o Fai. Ac oddyna, ddeufìs wedi hynny, amgylch calan Gorffenna, y daeth y