Ffreinc i Ddyfed a Cheredigion, y rhai a'i cynhaliasant eto, ac a gadarnhaesant y cestyll ar holl dir y Brytaniaid. Ac yna llas y Moel Cwlwm ab Dwnchath, brenin y Pictiaid a'r Albaniaid gan Ffreinc, ac Edward ei fab. Ac yna gweddiodd Margaret frenhines, gwraig y Moel Cwlwm, ar Dduw drwy ymddiried ynddo, wedi clybod lladd ei gŵr a'i mab, hyd na bei fyw hi yn y farwol fuchedd yma; a gwrando a orug Duw ei gweddi, canys erbyn y seithfed dydd y bu farw.
Ac yna aeth Gwilym Goch, brenin, yr hwn cyntaf a orfu ar y Saeson o glodforusaf ryfel, hyd yn Normandi, i gadw ac i amddiffyn teyrnas Robert ei frawd, yr hwn a athoedd hyd yng Nghaersalem i ymladd â'r Sasiniaid a chenhedloedd ereill anghyfiaith, ac i amddiffyn y Cristionogion, ac i haeddu mwy o glod. A Gwilym yn trigo yn Normandi, y gwrthladdodd y Brytaniaid lywodraeth y Ffreinc, heb allel goddef eu creulonder, a thorri y cestyll yng Ngwynedd, a mynychu anrheithiau a lladdfâu arnynt. Ac yna dug y Ffreinc luoedd hyd yng Ngwynedd, a'u cyferbynnu a orug Cadwgan fab Bleddyn, a'u cyrchu a gorfod arnynt, a'u gyrru ar ffo a'u lladd o ddirfawr laddfa. A'r