Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gruffydd ac Ifor, yn y lle a elwir Aber Llech. A'r ciwdadwyr a drigasant yn eu tai yn dioddef yn ddiofn, er fod y cestyll eto yn gyfan, a'r castellwyr ynddynt Yn y flwyddyn honno y cyrchodd Uchtryd fab Edwin a Hywel fab Goronw, a llawer o benaethau ereill gyda hwynt, ac ymladd o deulu Cadwgan fab Bleddyn gastell Penfro, a'u hyepeilio o'u holl anifeiliaid, a diffeithio yr holl wlad, a chyda dirfawr anrhaith yr ymchwelasant adref.

1094. Diffeithiodd Geralt ystiwart, yr hwn y gorchymynasid iddo ystiwardiaeth castell Penfro, derfynau Mynyw. Ac yna yr eil waith cyffroes Gwilym frenin Lloegr aneirif o luoedd a dirfawr feddiant a gallu yn erbyn y Brytaniaid. Ac yna gochelodd y Brytaniaid eu cynnwrf hwynt, heb obeithio ynddynt eu hunain, namyn gan osod gobaith yn Nuw, creawdwr pob peth, drwy ymprydio a gweddio a rhoddi cardodau a chymryd garw bennyd ar eu cyrff. Gan ni lefasai y Ffreinc gyrchu y creigiau a'r coedydd, namyn gwibio yng ngwastadion feusydd. Yn y diwedd, yn orwag yr ymchwelasant adref, heb ennill dim. A'r Brytaniaid yn hyfryd ddigrynedig a amddiffynasant eu gwlad.