1095. Cyffroes y Ffreinc luoedd y drydedd waith yn erbyn Gwynedd, a dau dywysog yn eu blaen, a Hu iarll Amwythig yn bennaf arnynt. A phabellu a orugant yn erbyn ynys Fon. A'r Brytaniaid, wedi cilio i'r lleoedd cadarnaf iddynt o'u gnotedig ddefod, a gawsant yn eu cyngor achub Mon. A gwahodd atynt wrth amddiffyn iddynt, llynges ar for o Iwerddon, drwy gymryd eu rhoddion a'u gwobrau gan y Ffreinc. Ac yna gedewis Cadwgan fab Bleddyn a Gruffydd fab Cynan ynys Fon, a chiliasant i Iwerddon, rhag ofn twyll eu gwyr eu hunain. Ac yna daeth y Ffreinc i mewn i'r ynys, a lladdasant rai o wyr yr ynys. Ac fel yr oeddynt yn trigo yno, daeth Magnus brenin Germania, a rhai o'i longau ganddo, hyd ym Mon; drwy obeithio caffel goresgyn ar wladoedd y Brytaniaid. Ac wedi clybot o Fagnus frenin y Ffreinc yn mynych feddylio diffeithio yr holl wlad, a'i dwyn hyd ar ddim, dyfrysio a orug i eu cyrchu. Ac fel yr oeddynt yn ymsaethu, y naill rai o'r môr a'r rhai ereill o'r tir, brathwyd Hu iarll yn ei wyneb,ac o law y brenin ei hun yn y frwydyr y digwyddodd. Ac yna gadewis Magnus frenin, trwy ddisyfyd gyngor, derfynau y wlad. A dwyn a orug
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/43
Prawfddarllenwyd y dudalen hon