Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ereill o'r tu draw i for, a hynny drwy gyffredin gwynfan pawb yn dolurio eu calonnau, y bu farw.

1097. Llas Gwilym Goch, brenin y Saeson, yr hwn a wnaethpwyd yn frenin wedi Gwilym ei dad. Ac fel yr oedd hwnnw ddyddgwaith yn hela gyda Henri, y brawd ieuaf iddo, a rhai o'r marchogion gyda hwynt, ei brathwyd â saeth gan Wallter Turel, marchog iddo, o'i anfodd; pan oedd yn bwrw carw, y medrodd y brenin ac a'i lladdodd. A phan welas Henri ei frawd yntau hynny, gorchymyn a orug corff ei frawd i'r marchogion a oedd yn y lle, ac erchi iddynt wneuthur brenhinol arwyliant iddo. Ac yntau a gerddodd hyd yng Nghaer Wynt, yn y lle yr oedd swllt y brenin a'i frenhinolion oludoedd. Ac achub y rhai hynny a orug. A galw ato holl dylwyth y brenin, a myned oddiyno hyd yn Llundain a'i goresgyn, yr hon sydd bennaf a choron ar holl frenhiniaeth Lloeger. Ac yna y cydredasant ato Ffreinc a Saeson i gyd, ac o frenhinol gyngor y gosodasant ef yn frenin yn Lloeger. Ac yn y lle cymerth yntau yn wraig briod iddo Fahallt ferch y Moel Cwlwm, brenin Prydain, o Fargaret frenhines ei mam. A honno drwy ei phriodi