a ansodes ef yn frenhines; canys Gwilym Goch ei frawd ef yn ei fywyd a arferasai o ordderchadau, ac wrth hynny y buasai farw heb etifedd. Ac yna yr ymchwelodd Robert, y brawd hynaf iddynt, yn fuddugol o Gaersalem.
A bu farw Tomas, archesgob Caer Efrog. Ac yn ei ol yntau dynesodd Gerard, a fuasai esgob yn Henffordd cyn na hynny, a derchafodd Henri frenin ef ar deilyngdod a oedd uwch yn archesgob yng Nghaer Efrog. Ac yna cymerth Anselm archesgob Caint drachefn ei archesgobawd drwy Henri frenin, yr hwn a adawsai yn amser Gwilym Goch frenin, o achos anwiredd hwnnw a'i greulonder, gan na welai ef hwnnw yn gwneuthur dim yn gyfiawn o orchymynnau Duw, nac o lywodraeth frenhinol teilyngdod.
1098. Bu farw Hu Fras, iarll Caer Lleon ar Wysg, ac yn ei ol dynesodd Roger ei fab, cyn bei bychan ei oed. Ac eisoes y brenin a'i gosodes yn lle ei dad, o achos maint y carai ei dad. Ac yn y flwyddyn honno y bu farw Gronw fab Cadwgan ab Owen mab Gruffydd.
1100. Bu anghytundeb rhwng Henri frenin a Robert iarll Amwythig ac Ernwlff ei frawd, gŵr a gafas Ddyfed yn rhan