Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/49

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, ac a wnaeth gastell Penfro yn fawrfrydus. A phan gigleu y brenin eu bod yn gwneuthur twyll yn ei erbyn, megis y daeth y chwedl aruynt y galwodd ato i wybod gwirionedd am hynny; a hwythau, heb allel ymddiried i'r brenín, a geisiasant achos i fwrw esgus. Ac wedi gwybod onaddynt adnabod o'r brenin eu twyll ac eu brad, ni feiddiasant ymddangos gerbron ei genddrycholder ef. Achub a orugant eu cadernid, a galw porth o bob tu iddynt, a gwahodd atynt y Brytaniaid a oeddynt. darestyngedigion iddynt yn eu meddiant, ac eu penaethau, nid amgen Cadwgan, Iorwerth, a Meredydd, feibion Bleddyn fab Cynfyn, yn borth iddynt. Ac eu horfoll yn fawrfrydig anrhydeddus iddynt at orugant, ac addaw llawer o dda iddynt, at rhoddi rhoddion, a llawenhau eu gwlad o ryddid. Ac yng nghyfrwng hynny cadarnhau eu cestyll, a'u cylchynu o flosydd a muroedd, a pharotoi llawer o ymborth, a chynnull marchogion, a rhoddi rhoddion. iddynt. Robert a achubodd bedwar castell, nid amgen Arwndel, a Blif, a Bryg, ynglyn a'r hwn yr oedd yr holl dwyll, yr hwn a rwndwalasai yn erbyn arch y brenin, ac Amwythig. Eruwlff a achubodd Benfro ei hun. Ac wedi hynny cyn-