Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

null lluoedd a orugant, a galw y Brytaniaid i gyd, a gwneuthur ysglyfaethau, ac ymchwelyd yn llawen adref. A phan oeddid yn gwneyd y pethau hynny, y meddyliodd Ernwlff heddychu â'r Gwyddyl, a derbyn nerth ganddynt. Ac anfon a wnaeth genhadau hyd yn Iwerddon, nid amgen Gerald ystiwart a llawer o rai ereill, i erchi merch Mwrchath frenin yn briod iddo. A hynny a gafas yn hawdd, a'r cenhadau a ddaethant i eu gwlad yn hyfryd. A Mwrchath a anfones ei ferch, a llawer o longau arfog gyda hi, yn nerth iddo. Ac wedi ymddyrchafel o'r ieirll mewn balchder o achos y pethau hynny, ni chymerasant ddim heddwch gan y brenin. Ac yna y cynhullodd Henri frenin lu bob ychydig, ac ynghyntaf cylchynodd gastell Arwndel drwy ymladd â hi. Ac oddyna y cymerth gastell Blif, a hyd yng nghastell Bryg, ac ymhell oddiwrtho y pabellodd. A chymryd cyngor a orug pa fodd y darostyngai ef y ieirll, neu y lladdai, neu y gwrthladdai o'r holl deyrnas. Ac o hynny pennaf cyngor a gafodd anfon cenhadau o'r Brytaniaid, ac yn wahanredol at Iorwerth fab Bleddyn, a'i wahodd a'i alw ger ei fron, ac addaw mwy iddo nag a gaffai gan y ieirll, a'r cyfran y perthynai ei gael