o o dir y Brytaniaid. 'Hynny a roddes y brenin yn rhydd i Iorwerth fab Bleddyn tra fai byw y brenin, heb dwng a heb dâl. Sef oedd hynny, Powys a Cheredigion a hanner Dyfed,—canys yr hanner arall a roddasid i fab Baldwin,—a Gwyr a Chydweli. Ac wedi myned Iorwerth fab Bleddyn i gastell y brenin, anfon a oruc i anrheithio cyfoeth Robert ei arglwydd. A'r anfonedig lu hwnnw gau Iorwerth, gan gyflawni gorchymyn Iorwerth, a anrheithiasant gyfoeth Robert ei arglwydd drwy gribddeilio pob peth ganddynt, a diffeithio y wlad, a chynnull dirfawr anrhaith ganddynt o'r wlad. Canys y iarll cyn na hynny a orchymynasai roddi cred i'r Brytaniaid, heb debygu caffael gwrthwyneb ganddynt, ac anfon ei holl hafodydd a'i anifeiliaid a'i oludoedd i blith y Brytaniaid, heb goffau y sarhadau a gawsai y Brytaniaid gynt gan Rosser ei dad ef, a Hu brawd ei dad. A hynny oedd guddiedig gan y Brytaniaid yn fyfyr. Cadwgan fab Bleddyn a Meredydd ei frawd oeddynt eto gyda'r iarll, heb wybod dim o hynny. Ac wedi clybot o'r iarll hynny, anobeithio a oruc, a thebygu nad oedd dim gallu ganto o achos myned lorwerth oddiwrtho, canys pennaf oedd
Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/51
Gwirwyd y dudalen hon