Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnnw o'r Brytaniaid, a mwyaf ei allu ; ac erchi cynghrair a orug fel y gallai, ai heddychu â'r brenin, ai gado y deyrnas o gwbl.

Yng nghyfrwng y pethau hynny yr aeth Ernwlff a'i wyr yn erbyn y wraig a'r llynges arfog a oedd yn dyfod yn borth iddo. Ac yn hynny y daeth Magnus frenin Germania eilwaith i Fon; ac wedi torri llawer o wŷdd defnydd, ymchwelyd i Fanaw drachefn. Ac yna, herwydd y dywedir, gwneuthur a orug tri chastell, a'u llenwi eilwaith o'i wyr ei hun, y rhai a ddiffeithiasai cyn na hynny. Ac erchi merch Mwrchath o'i fab, canys pennaf oedd hwnnw o'r Gwyddyl, a hynny a gafas yn llawen, a gosod a orug ef y mab hwnnw yn frenin ym Manaw. Ac yno y trigodd y gaeaf hwnnw. Ac wedi clybod o Robert iarll hynny, anfon cenhadau a orug ar Fagnus; ac ni chafas ddim o'r negesau.

Ac wedi gweled o'r iarll ei fod yn warchaedig o bob parth iddo, ceisio cennad a ffordd gan y brenin i adaw ei deyrnas. A'r brenin a'i caniataodd. Ac yntau, drwy adaw pob peth, a fordwyodd hyd yn Normandi. Ac yna yr anfones y brenin at Ernwlff, i erchi iddo un o'r ddeupeth, ai gadaw y deyrnas a myned yn ol ei frawd