III.
Owen ab Cadwgan.
[Rhoddir pennod i hanes rhamantus y gwibiwr dyddorol hwn. Y tu ol i'w fywyd cynhyrfus, gwelir meibion Bleddyn; a daw Gruffydd ab Cynan a Gruffydd ab Rhys yn fwy eglur yn raddol.]
1105. Parotoes Cadwgan fab Bleddyn wledd i benaduriaid ei wlad, a gwahodd i'r wledd a wnaethoedd Owen ei fab of Bowys. A'r wledd honno a wnaeth ef y Nadolig er anrhydedd i Dduw. Ac wedi darfod y wledd, a chlybod o Owen for Nest. ferch Rhys ab Tewdwr, gwraig Gerald Ystiward, yn y dywededig gastell fry, myned a orug i ymweled â hi, ac ychydig o nifer gydag ef, megis â chares iddo. Ac felly yr oeddynt; canys Cadwgan fab Bleddyn, a Gwladus ferch Rhiwallon mam Nest, a oeddynt gefnder a chefnither; canys Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn, a oeddynt frodyr i Angharad ferch. Feredydd frenin. Ac wedi hynny, o annog Duw. y doeth ef noswaith i'r castell, ac ychydig o nifer gydag ef, fel amgylch pedwar gwr ar ddeg. Ac wedi gwneuthur