Harri frenin am sarhad ei ystiward; ac yna ymchwelyd a orug, a choisio talu ei wraig, a'i anrhaith i Erald ystiward drachefn gan Owen, ac nis cafas. Ac yna, o ystryw y wraig oedd yn dywedyd wrth Owen fel hyn,—"O mynni fy nghael i'n ffyddlon it a'm cynnal gyda thi, hebrwng fy mhlant. at eu tad," yna o dra serch a chariad y wraig, y gollyngodd ei blant i'r ystiward.
A phan gigleu Rickart esgob Llundain hynny, y gŵr a oedd yna ystiwart i Henri frenin yn Amwythig, meddwl a orug dial ar Owen sarhad Gerald ystiward. A galw ato a wnaeth Ithel a Madog, meibion Rhirid fab Bleddyn, a dywedyd wrthyn fel hyn, A fynnwch chwi regi bodd i Henri frenin, a chaffael ei gariad a'i gymdeithas yn dragwyddol, ac efe a'ch mawrha. yn bennaf o'ch evtirogion, ac y cyngorfyna wrthych eich cyd-derfynwyr o'ch holl genedl Ac ateb a wnaethant, "Mynnwn," eb hwynt. "Ewch chwithau," eb ef, "a delwch Owen fab Cadwgan os gollwch; ac onis gellwch, gwrthleddwch o'r wlad ef a'i dad. Canys ef a wnaeth gam a sarhad yn erbyn y brenin, a dirfawr golled i Erald ystiward, ei wahanredol gyfaill, am ei wraig a'i blant.