a'i gastell, ac ysbail ac anrhaith. A minnau a roddaf gyda chwi ffyddlonion. gymdeithion, nid amgen Llywarch fab Trahaeara, y gŵr y lladdodd Owen ei frodyr, ac Uchtryd fab Edwin." Ac hwyntau, wedi credu yr addewidion hynny, a gynhullasant lu, ac a aethant i gyd ac a gyrchasant y wlad. Ac Uchtryd a anfones genhadau i'r wlad i fynegi i'r ciwdawdwyr, pwy bynnag a giliai ato ef y caffai amddiffyn. A rhai a giliasant ato ef, eroill i Arwystli, ereill i Ystrad Tywi, a'r rhan fwyaf i Ddyfed yr aethant, i'r lle yr oedd Gerald yn feddiannus. A phan oedd ef yn mynnu eu difa hwynt, fe a ddamweiniodd dyfod Gwallter, uchelfaer Caer Loew, y gŵr a orchymynasai y brenin iddo lywodraeth ac amddiffyn Lloegr, hyd yng Nghaerfyrddin. A phan gigleu ef hynny, eu hamddiffyn a orug: a rhai onaddynt a giliodd i Arwystli, ac y cynhyrddodd gwyr Maelenydd ag hwynt ac a'u lladdasant; a'r rhai a giliodd at Uchtryd a ddihangasant; a'r rhai a giliodd i Ystrad Tywi, Meredydd fab Rhydderch a'u harfolles yn hygar.
Cadwgan ac Owen a foasant i long oedd yn Aber Dyfi, a ddaethai o Iwerddon ychydig cyn na hynny, a chyfnewid ynddi.