ereill heb eu difa. A phan oeddynt felly, clybod a wnaethant fod rhai yn trigo yn noddfa Dewi yn Llan Ddewi Brefi yn yr eglwys gyda'r offeiriad. Anfon a wnaethant yno ddrwg ysbrydolion anghyweithas, a llygru a wnaethant yr eglwys a'i diffeithio o gwbl. Ac wedi hynny yn orwag haeach yr ymchwelasant, oddieithr cael anfoliannus anrhaith o gyfleoedd seint Dewi a Phadarn.
Ac wedi hynny y mordwyodd Owen i Iwerddon gydag ychydig o gymdeithion, a'r rhai yr oedd achos iddynt drigo yn ei ol, canys buasent wrth losgedigaeth y castell. A chan Murtart, brenin pennaf yr Iwerddon, yr arfolled ef yn hygar; canys ef a fuasai gynt gydag ef, a chydag ef y magesid yn y rhyfel y diffeithiwyd Mon gan y ddau iarll, ne anfonasid ef gan ei frawd a rhoddion i Murtart.
Ac yna yr aeth Cadwgan yn ddirgel hyd ym Mhowys, ac anfon cenhadau a wnaeth i geisio heddychu â Rhicert, ystiward y brenin; a chael cynghrair ganddo a wnaeth i geisio heddychu â'r brenin pwy wedd bynnag y gallai. A'i arfoll a orug y brenin, a gadel iddo drigo mewn tref a gawsai gan ei wraig oedd Ffrances.