Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

merch Pictot Sage. Ac yna achubodd. Madog, ac Ithel, meibion Rhirid, ran Cadwgan ac Owen ei fab o Bowys, y rhai a lywiasant yn anfoliannus, ac ni buont heddychol rhyngddynt eu hunain. Yngnyfrwng hynny, wedi heddychu o Gadwgan, y cafas ei gyfoeth, nid amgen Ceredigion, wedi ei phrynnu gan y brenin er can punt. Ac wedi clybod hynny, ymchwelyd a wnaeth pawb ar a wasgaresid o gylch; canys gorchymyn y brenin oedd na allai neb gynnal neb o'r rhai a oedd yn preswylio Ceredigion, cyn na hynny, na gwr o'r wlad na gŵr dieithr fyddai. A'i rhoddi a orug y brenin i Gadwgan ar yr amod hynyma, na bei na chymdeithas na chyfeillach rhyngddo ag Owen ei fab, ac na adei iddo ddyfod i'r wlad, ac na roddai iddo na chyngor na nerth. Ac oddyna yr ymchwelodd rhai o'r gwyr a aethai gydag Owen i Iwerddon, a llechu yn ddirgeledig a wnaethant heb wneuthur dim argywedd.

Ac wedi hynny yr ymchwelodd Owen, ac nid i Geredigion y daeth, namyn i Bowys, a cheisio anfon cenhadau at y brenin. Ynghyfrwng hynny y bu anundeb rhwng Madog a'r Ffreinc, oherwydd y lladradau yr oedd y Saeson yn eu gwneu-