Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/69

Gwirwyd y dudalen hon

wlad yr eilwaith yr erchis Ithel fab Rhirid ei frawd, a thri chan punt o arian, pa ffordd bynnag y gallai ddyfod iddynt, nac o feirch nac o ychen nac o neb ryw ffordd y gallai ddyfod iddynt. Ac yna y rhodded mab Cadwgan fab Bleddyn, yr hwn a anesid o'r Ffrances, yr hwn a elwid Henri, ac y talwyd can marc drosto. Ac yna rhodded y wlad iddo ef, a llawer a dalodd. Ac yna gollyngwyd mab Cadwgan.

Ac ynghyfrwng y pethau hynny gwnaeth Owen a Madog a'u cymdeithion lawer o ddrygau yng ngwlad y Ffreinc ac yn Lloegr. A pha beth bynnag a geffynt, nac o ladrad nac o drais, i dir Iorwerth y dygynt. Ac yno y preswylient. Ac yna anfon cenadwri a orug Iorwerth atynt yn garedig, a dywedyd wrthynt fel hyn,—Duw a'n rhoddes ni yn llaw ein gelynion, ac a'n darostyngodd yn gymaint ag na allem wneuthur dim ar a fyddai ewyllys gennym. Gwaharddedig yw inni neb o'r Brytaniaid byd na chyffredino neb ohonom â chwychwi, nac o fwyd nac o ddiod, nac o nerth nac o gynhorthwy, namyn eich ceisio a'ch hela ymhob lle, a'ch rhoddi yn y diwedd yn llaw y brenin, i'ch carcharu