Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/75

Gwirwyd y dudalen hon

lawni ei ewyllys. A phan ymchwelodd Iorwerth i Gaer Einion y cyrchodd Madog, a chymdeithion Llywarch gydag ef yn borth iddo, gyrch nos am ben Iorwerth. A dodi gawr a orugant ynghylch y ty lle yr oedd Iorwerth; a dihuno a wnaeth Iorwerth gan yr awr, a chadw y ty arno ef a'i gymdeithion: a llosgi y ty a wnaeth Madog am ben Iorwerth. A phan welas cymdeithion Iorwerth hynny, cyrchu allan a orugant trwy y tân. Ac yntau, pan welas y ty yn digwydd, ceisio cyrchu allan a orug, a'i elynion a'i cymerth ar flaen gwewyr, ac yn atlosgedig ei ladd.

A phan gigleu Henri frenin ladd Iorwerth, rhoddi Powys a wnaeth i Gadwgan fab Bleddyn, a heddychu ag Owen ei fab, ac erchi i Gadwgan anfon cenhadau yn ol Owen hyd yn Iwerddon. Ac wedi gwybod o Fadog a'r rhai a laddasent Iorwerth gydag ef wneuthur anghyfraith onaddynt yn erbyn y brenin, llechu mewn coedydd a orugant, ac arfaethu gwneuthur brad Cadwgan.

A Chadwgan, heb fynnu agweddu i neb, megis yr oedd foes ganddo, a ddaeth hyd yn Nhrallwng Llywelyn; ar fedr trigo yno, a phreswylio lle yr oedd