hyrwydd ac agos i Fadog. Ac yna anfon ysbiwyr a orug Madog i wybod pa le y byddai Gadwgan. A'r rhai hynny a ddaethant drachefn ac a ddywedasant, "Y neb yr oeddynt yn ei geisio, ymhell y mae hwnnw, ac yn agos." Ac yntau a'i wyr yn y lle a gyrchodd Carlwgan. A Chadwgan, heb dybio dim drwg, a ymwnaeth yn llesg heb fynnu ffo, a heb allel ymladd, wedi ffoi ei wyr oll, a'i gael yntau yn unig, a'i ladd.
Ac wedi lladd Cadwgan anfon cenhadau a wnaeth Madog at Ricert esgob Llundain, y gŵr a oedd yn cynnal lle y brenin ac yn ei lywio yn Amwythig i erchi iddo ef y tir y gwnaethid y cyflafanau hynny am dano. Ac wedi rhagfeddylio o'r esgob yn gynnil ei achosion ef, heb roddi mesur ar hynny ei oedi a orug, ac nid er ei gariad ef, namyn adnabod ohono ddefodau gwyr ei wlad, mai lladd a wnae bob un onaddynt eu gilydd. A'r gyfran a fuasai eiddo iddo ef ac i Ithel ei frawd cyn na hynny a roddai iddo. A phan gigleu Feredydd fab Bleddyn hynny, cyrchu y brenin a orug, i erchi iddo dir Iorwerth fab Bleddyn ei frawd.
A'r brenin a roddes gadwraeth y tir iddo hyd oni ddelai Owen fab Cadwgan