dal a orugant a lladd llawer o'i wyr, a'i ddwyn yngharchar at Foredydd; a'i gymryd yn llawen a orug, a'i gadw mewn gefyanau. Yna y daeth Owen ab Cadwgan, yr hwn nid ydoedd gartref. A phan gigleu Owen hynny, ar frys y daeth, a rhoddes Moredydd ef yn ei law; a'i gymryd a orug yn llawen, a'i ddallu. A rhannu rhyngddynt a wnaethant ei ran ef o Bowys, sef oedd hynny, Caereinion a thraean Deuddwr ac Aberiw.
1111. Cyffroes Henri frenin lu yn erbyn Gwynedd, ac yn bennaf i Bowys. Ac wedi barnu ar Owen wneuthur anghyfraith, ei gyhuddo a orug Gilbert fab Ricert wrth y brenin, a dywedyd fod gwyr Owen yn gwneuthur lladradau ar ei dir ef a'i wyr. A'r drygau a wnelai ereill a ddywedid ar wyr Owen. A chredu a orug y brenin fod pob peth ar a ddywedai y cyhuddwr yn wir.
Ynghyfrwng hynny, cyhuddo a wnaeth mab Hu, iarll Caerlleon, Ruffydd fab Cynan a Gronw fab Owen. Ac arfaethu o gytundeb mynnu dileu yr holl Frytaniaid o gwbl, hyd na cheffynt Frytanawf enw yn dragywydd. Ac wrth hynny y cynhullodd Henri frenin lu o'r holl ynys, o Benryn Pengwaed hyd ym Mheurhyn Blataon yn y