Gogledd, yn erbyn Gwynedd a Phowys. A phan gigleu Feredydd fab Bleddyn hynny, myned a wnaeth i geisio cyfeillach gan y brenin. Ac wedi adnabod hynny o Owen, cynnull ei holl wyr a'i holl dda a wnaeth, a mudo hyd ym mynyddoedd Eryri; canys cadarnaf lle, a diogelaf i gael amddiffyn rhag y llu, oedd hwnnw. Ynghyfrwng hynny yr anfones y brenin dri llu,—un gyda Gilbert tywysog o Gernyw, a Brytaniaid y Deheu, a Fireinc a Saeson o Ddyfed a'r Deheu oll; a'r llu arall o'r Gogledd a'r Alban, a dan dywysog arnynt, nid amgen Alexander fab y Moel Cwlwm, a mab Hu iarll Caerlleon a'r trydydd gydag ef ei hun. Ac yna daeth y brenin, a'i deulu gydag ef, hyd y lle a elwir Mur Castell. Ac Alexander a'r iarll a aethant i Bennaeth Bachwy.
Ynghyfrwng hynny yr anfones Owen genhadau at Ruffydd ac Owen ei fab, i erchi iddynt wneuthur cadarn heddwch rhyngddynt yn erbyn y gelynion, y rhai oedd yn arfaeth eu dileu yn gwbl, neu eu gwarchae yn y môr, hyd nad enwid Brytanawl enw yn dragwyddawl. Ac ymarfoll ynghyd a wnaethant na wnelai un heb eu gilydd na thangnefedd na chyfundeb â'u