Tudalen:Brut y Tywysogion Cyfres y Fil.djvu/80

Gwirwyd y dudalen hon

gelynion. Wedi hynny, anfones Alexander mab y Moel Cwlwm, a'r iarll gydag ef, genhadau at Ruffydd fab Cynan, i erchi iddo ddyfod i heddwch y brenin, ac addaw llawer iddo, a'i dwyllo i gytuno â hwy. A'r brenin a anfones genhadau at Owen, i erchi iddo ddyfod i heddwch, a gadaw y gwyr ni aller caffael na phorth na nerth ganddynt. Ac ni chytunodd Owen â hynny. Ac yn y lle, nachaf un yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho—"Bydd ofalus, a gwna yn gall yr hyn a wnelych; dyma Ruffydd, ac Owen ei fab, wedi cymeryd heddwch gan fab y Moel Cwlwm a'r iarll, wedi rhoddi iddo onaddynt cael ei dir yn rhydd heb na threth na chyllid na chastell ynddo tra fydd byw y brenin." Ac eto ni chydsyniodd Owen â hynny. Ac eilwaith yr arfaethwys y brenin anfon cenhadau at Owen, a chydag hwynt Meredydd. ab Bleddyn ei ewythr, yr hwn, pan welas Owen, a ddywedodd wrtho,—"Edrych na hwyrheych ddyfod at y brenin, rhag rhagflaenu o eraill cael cymdeithas y brenin." Ac yntau a gredodd hynny, a dyfod a wnaeth at y brenin. A'r brenin a'i harfolles ef yn llawen, drwy fawr gariad ac anrhydedd. Ac yna dywedodd y brenin wrth Owen,—"Gan y daethost ti ataf fi